Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 30 Ebrill 2025
Amser:
09.31 -
12.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/15076
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Andrew RT Davies AS (Cadeirydd) Hannah Blythyn AS Hefin David AS Luke Fletcher AS Samuel Kurtz AS Jenny Rathbone AS |
|
Tystion: |
Yr Athro Bridget Emmett, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU Dr William Stiles, Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Prysor Williams, Prifysgol Bangor |
|
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Nicole Haylor-Mott (Dirprwy Glerc) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) Ben Stokes (Ymchwilydd) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) Thomas Morris (Ymchwilydd) Katy Orford (Ymchwilydd) Madelaine Phillips (Ymchwilydd) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1.2 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Andrew RT Davies AS fuddiant mewn perthynas ag eitem 2.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Bridget Emmett (Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU),
Dr William Stiles (yr Adran Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Aberystwyth), a'r Athro Prysor Williams, (yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, Prifysgol Bangor).
3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'i gohebiaeth o dan eitem 3.9.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd i’w gyhoeddi.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu a thystion posibl ar gyfer yr ymchwiliad.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor ar gylch gorchwyl yr ymgynghoriad a’r dull gweithredu cysylltiedig, gan ymrwymo i fwrw ymlaen â'r ymchwiliad.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu a thystion posibl ar gyfer yr ymchwiliad.
8.2 Trafododd y Pwyllgor gylch gorchwyl yr ymgynghoriad, ynghyd â’r dull gweithredu a’r cyfarfodydd cysylltiedig, a chytunodd i fwrw ymlaen â'r ymchwiliad.
9.1 Trafododd y Pwyllgor y newidiadau i'r adroddiad drafft yn dilyn gosod Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil, a chytunodd i'w gyhoeddi.
10.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
10.2 Yn dilyn trafodaeth, cytunodd y Pwyllgor y dylai swyddogion ddrafftio ymateb yn mynegi barn y Pwyllgor i'w hystyried.